MONITRO CYFLE CYFARTAL
Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y nod o ddarparu mynediad a chyfle teg a chyfartal i sicrhau bod pob sector o gymdeithas yn cael ei gynrychioli ym mhopeth a wnawn. Gofynnwn felly i chi lenwi ein Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal ar y dudalen nesaf i'n cynorthwyo i gyrraedd y nod yma.
MANYLION DATA
Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Y Coleg) yn defnyddio’r manylion uchod ar gyfer ei buddiant hanfodol o brosesu eich ysgoloriaeth, gan gynnwys ei dalu, yn unol â'r amodau a amlinellir yn Neddf Diogelu Data 2018. Bydd y wybodaeth uchod yn cael ei gadw ar system y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i rannu gyda'r brifysgol yr ydych wedi ymgeisio i astudio ynddi,i ddilysu eich cais, a gyda banc y Coleg ar gyfer hwyluso’r taliad. Gellir gweld Rhybudd Preifatrwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n esbonio’n llawn y defnydd a wneir o’ch manylion personol ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (http://colegcymraeg.ac.uk/data).